Neidio i'r prif gynnwy

Ochr yn ochr – sut mae Dysgu Proffesiynol yn newid ac yn datblygu i helpu athrawon roi’r Cwricwlwm Newydd ar waith, a gwireddu ei amcanion

Read this page in English

Mae Ysgolion Arloesi Dysgu Proffesiynol yn gweithio gydag Ysgolion Arloesi’r Cwricwlwm Newydd i benderfynu pa ddysgu paratoadol fyddai o fudd i ymarferwyr.

Lloyd Mahoney, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a Dafydd Williams o Ysgol O.M. Edwards sy’n siarad am yr hyn y maent wedi ei ddysgu a sut y bydd ymarferwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf .

Lloyd Mahoney

Dafydd Williams

Bydd cefnogaeth ehangach hefyd ar gael i ysgolion. Ruth Thackray o Gonsortiwm GWE sy’n trafod rôl y Consortia a Dave Stacey o ‘Yr Athrofa: Institute of Education’, Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant sy’n ystyried rôl y Sefydliadau Addysg Uwch. Read more

Ysgol Dyffryn Conwy – ein taith tuag at y cwricwlwm newydd fel ysgol uwchradd (a chlwstwr!)

Read this page in English

Ysgol Dyffryn Conwy logoRydym yn ysgol ddwyieithog naturiol i blant rhwng 11 a 18 oed sydd wedi’i lleoli yn ardal wledig Dyffryn Conwy. Mae gennym bartneriaeth gref gydag ysgolion cynradd lleol ac rydym wedi cydweithio â nhw tuag at Dyfodol Llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn ysgol arloesi ond yn gweithio’n helaeth gyda’r rhai nad ydynt yn ysgolion arloesi.

Dechreuodd ein taith drwy baratoi ein cymuned ysgol a’n clwstwr 3-16 o 14 o ysgolion cynradd ar gyfer y Cwricwlwm newydd. Rydym wedi gweithio fel staff ac mewn clwstwr i ddeall gwahanol elfennau’r Cwricwlwm newydd yn well, rhannu’r wybodaeth drwy gyfarfodydd staff, grwpiau arwain a diwrnodau HMS yn yr ysgol ac ar lefel Maes Dysgu a Phrofiad. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag ysgolion Maes Dysgu a Phrofiad eraill a gyda chydweithwyr yn GWE. Read more

Ysgol Crownbridge: Pam ein bod yn edrych ymlaen at y cwricwlwm newydd.

Read this page in English

Crownbridge School girl with dog.pngNi yw’r unig Ysgol Arbennig yn Nhorfaen.  Mae 116 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n teithio atom o wahanol ardaloedd ledled y Fwrdeistref. Rydym yn ysgol Arloesi.

Hoffem egluro pam ein bod yn teimlo mor optimistaidd am y cwricwlwm newydd, o gymharu â’r cwricwlwm presennol sydd wedi bod yn heriol ar adegau yn y ffordd y mae’n diffinio ‘cynnwys’.

Mae ein disgyblion rhwng 3 ac 19 oed ac mae ganddynt ystod eang o anawsterau dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys Anhawster Dysgu Difrifol (SLD), Anhawster Dysgu Dwys a Lluosog (PMLD) ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD).

Cyn Dyfodol Llwyddiannus: Read more