Neidio i'r prif gynnwy

Dyma restr o’n postiadau blog ers mis Mawrth, wedi’u trefnu mewn grwpiau.

Read this page in English

In one place - WelshGan nad oes mynegai, rydym yn gobeithio y bydd y rhestr hon yn ddefnyddiol i chi wrth ddod o hyd i eitemau yr hoffech eu darllen.

Mae’n cynnwys dolenni i’r postiadau’n ymwneud â’r Cwricwlwm ac Asesu, Dysgu Proffesiynol, Cymhwysedd Digidol, a diwygiadau addysg ehangach.

Os yn ddefnyddiol, gallwn wneud hyn bob tymor – rhowch wybod i ni. Read more

Gwerthusiad diweddaraf o’r model ysgolion arloesi ar gyfer datblygu’r cwricwlwm

Read this page in English

459082897Er ei fod yn ddull mentrus ac ymroddedig o ddatblygu’r cwricwlwm, mae dal i fod angen gwerthuso’r broses yn drylwyr er mwyn llywio gwelliannau wrth symud ymlaen. Dyna’n union a wneir yn yr adroddiad diweddaraf gan ymchwilwyr annibynnol, sy’n hawdd ei ddarllen.

Mae’n canmol y dull gweithredu a ddefnyddir ond yn awgrymu bod angen i ysgolion sydd y tu allan i rwydwaith yr ysgolion arloesi fod yn fwy ymwybodol o’r cynnydd a wneir: Read more

Adroddiad Estyn ar Baratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Read this page in English

estyn dcf july 2018 CYMPa mor dda yw paratoadau ysgolion ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol? Gofynnodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, i Estyn adroddiad a thynnu sylw at arferion y da.

Mae’r adroddiad hefyd yn craffu ar arweinyddiaeth, rôl arweinwyr digidol, a dysgu proffesiynol. Roddir argymhellion ar gyfer ysgolion, consortia a Llywodraeth Cymru.

Mae’r adran ar ffyrdd effeithiol o baratoi yn rhoi mwy o fanylder, ynghyd â chyngor defnyddiol ar bynciau’n ymwneud â gweledigaeth, cynllunio, paratoi adnoddau a mapio’r cwricwlwm. Mae hefyd adran ar nodweddion sy’n gyffredin wrth i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gael ei weithredu’n llwyddiannus, lle ceir rhestr wirio a siart ar gyfer y daith gyfan, o’r cychwyn cyntaf hyd at gynnal cynnydd dros gyfnod o amser.

Mae’r adroddiad yn glir y gall gwahanol ysgolion wneud pethau mewn gwahanol ffyrdd, ond gall y llu o arferion da a grybwyllir fod yn berthnasol i bawb, a cheir hefyd sawl astudiaeth achos ddefnyddiol.