Wrth i Arloeswyr gynllunio a datblygu’r cwricwlwm newydd gan nodi’r cymorth proffesiynol y mae’r gweithle ei angen, mae penaethiaid cynradd ac uwchradd wedi bod yn cydweithio â’r Llywodraeth, arbenigwyr a phartneriaid er mwyn creu model newydd ar y cyd ar gyfer atebolrwydd ysgolion.
Yn y model newydd, bydd pob dysgwr yn cyfrif, sy’n rhoi cyfleoedd sylweddol o ran canolbwyntio ar gynnydd ein dysgwyr sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, mae lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng grwpiau o ddysgwyr yn bwysig ar hyn o bryd, felly mae camau gweithredu eisoes ar waith i wella cyfleoedd mewn bywyd ar gyfer disgyblion mewn llawer o’n hysgolion heddiw; bydd y gwaith hwnnw yn cael ei gefnogi gan ein rhaglen o ddiwygio addysg yng Nghymru. Read more