Plant yn dringo twmpathau eira, yn sglefrio ac yn chwarae hoci iâ – amser chwarae mewn ysgol gynradd arferol yn y Ffindir. Mae’r plant wedi bod mewn gwers ers wyth y bore ‘ma ac erbyn chwarter i naw maen nhw’n barod am bymtheg munud o hwyl gyda ffrindiau … y tu allan yn yr eira!
Mae pymtheg munud o chwarae ar ôl pob gwers 45 munud yn eithaf cyffredin yn y Ffindir. Yn ddiweddar mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyflwyno Finland on the move, rhaglen genedlaethol i gynyddu gweithgarwch corfforol a lleihau amser segur ymhlith plant ysgol. Mae’r holl blant yn bwyta cinio ysgol iach am ddim yn yr ysgol hefyd.