Fe welwch ar siart wal y Fframwaith Cymhwysedd Digidol y disgwyliadau ar gyfer mabwysiadu’r Fframwaith wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei ddatblygu a thu hwnt i hynny. Mae’r ‘Cerdyn Post’ yn cynnwys rhai nodiadau atgoffa ac arsylwadau.
Chwefror 2018
Deall yr amserlenni: Diwygio Addysg a’r Cwricwlwm
Dyma siart wal defnyddiol a ‘cherdyn post’ am y cwricwlwm. Maent yn nodi’r amserlenni ar gyfer diwygio addysg a’r cwricwlwm, gan ddangos sut mae popeth yn cyd-fynd.
Deall ‘dilyniant’ yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd
Mae Athrofa Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cydweithio’n llwyddiannus â nifer o sefydliadau.
Un o’i brosiectau cydweithredol mwyaf arwyddocaol yw’r un sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Glasgow, ar ran Llywodraeth Cymru.
Gan adeiladu ar gryfderau ein partneriaeth strategol a chydweithio’n agos â’r rhwydwaith o ysgolion arloesi, mae prosiect CAMAU yn ceisio meithrin dealltwriaeth a rennir o ‘ddilyniant’ yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus.
Proses Datblygu’r Cwricwlwm – ‘beth sy’n bwysig’
Mae’r nodiadau yn rhoi manylion y broses ar gyfer datblygu ‘beth sy’n bwysig’ a bydd y gwaith o’i fireinio yn parhau.
Ail-lunio map y cwricwlwm yng Nghymru
Roedd cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus yn 2015 yn drobwynt yn hanes addysg yng Nghymru. Mae’r cwricwlwm arfaethedig newydd yn newid mawr o bolisi o’r brig i’r bôn diweddar nad oedd yn rhoi fawr o ryddid i athrawon. Mae’n symud ysgolion i ffwrdd o ddulliau addysgu penodol a arweinir gan gynnwys, ac yn rhoi rhyddid sylweddol i athrawon ac ysgolion ddatblygu cwricwlwm ysgol i ddiwallu anghenion lleol.
Mae Cwricwlwm newydd Cymru yn nodweddiadol, mewn nifer o ffyrdd, o bolisi byd-eang diweddar ‘cwricwlwm newydd’. Mae’n rhoi pwyslais ar ganologrwydd y dysgwr, a phwysigrwydd datblygu’r hyn a elwir yn sgiliau’r 21ain ganrif, i arfogi pobl ifanc i ffynnu mewn cymdeithasau democrataidd modern cymhleth ac yn y gweithle. Mae’n cydnabod y ffaith efallai nad pynciau, y dull hollbresennol o rannu’r cwricwlwm uwchradd, yw’r ffordd orau bob amser o drefnu’r maes addysgu er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen i ffynnu yn y byd modern.
Newyddion am ‘beth sy’n bwysig’ yn y cwricwlwm newydd
Yn ystod cyfnod diweddaraf datblygu’r cwricwlwm, mae ysgolion arloesi wedi bod yn gofyn ‘beth sy’n bwysig?’ o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae Ty Golding yn cyflwyno’r gwaith.
Newyddion am ‘beth sy’n bwysig’ yn y cwricwlwm newydd – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Yn ystod cyfnod diweddaraf datblygu’r cwricwlwm, mae ysgolion arloesi wedi bod yn gofyn ‘beth sy’n bwysig?’ o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Yma, Elan Davies yn siarad am ‘beth sy’n bwysig’ ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Mae cyflwyniad mwy manwl i’r dull gweithredu, a’r papur sy’n nodi’r feddylfryd hyd yma ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ o fewn y maes Dysgu a Phrofiad i’w gweld yma.
Newyddion am ‘beth sy’n bwysig’ yn y cwricwlwm newydd – Dyniaethau
Yn ystod cyfnod diweddaraf datblygu’r cwricwlwm, mae ysgolion arloesi wedi bod yn gofyn ‘beth sy’n bwysig?’ o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Yma, James Kent yn siarad am ‘beth sy’n bwysig’ ym Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau.
Mae cyflwyniad mwy manwl i’r dull gweithredu, a’r papur sy’n nodi’r feddylfryd hyd yma ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ o fewn y maes Dysgu a Phrofiad i’w gweld yma.
Newyddion am ‘beth sy’n bwysig’ yn y cwricwlwm newydd – Mathemateg a Rhifedd
Yn ystod cyfnod diweddaraf datblygu’r cwricwlwm, mae ysgolion arloesi wedi bod yn gofyn ‘beth sy’n bwysig?’ o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Yma, Mike Griffiths yn siarad am ‘beth sy’n bwysig’ ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd.
Mae cyflwyniad mwy manwl i’r dull gweithredu, a’r papur sy’n nodi’r feddylfryd hyd yma ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ o fewn y maes Dysgu a Phrofiad i’w gweld yma.
Newyddion am ‘beth sy’n bwysig’ yn y cwricwlwm newydd – Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn ystod cyfnod diweddaraf datblygu’r cwricwlwm, mae ysgolion arloesi wedi bod yn gofyn ‘beth sy’n bwysig?’ o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Yma, yr athro Tom Crick yn siarad am ‘beth sy’n bwysig’ ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae cyflwyniad mwy manwl i’r dull gweithredu, a’r papur sy’n nodi’r feddylfryd hyd yma ynghylch ‘beth sy’n bwysig’ o fewn y maes Dysgu a Phrofiad i’w gweld yma.