Neidio i'r prif gynnwy

Clywed a chredu

Darllenwch y dudalen hon yn saesneg

Steve DaviesFis diwetha’, fe wrandawais ar ddadl ar Radio 4 am addysg y celfyddydau yn Lloegr.

Doedd y drafodaeth boenus am greadigrwydd fel sgil allweddol yn economi’r dyfodol a’r ffaith bod angen i bobl ifanc fod yn hyblyg mewn marchnad waith sy’n newid mor gyflym, ddim yn adlewyrchu’n dda ar y sefyllfa yn Lloegr.

Nid ysgrifennu hyn er mwyn ychwanegu at y feirniadaeth o’n annwyl gymdogion ydw i. Ond ni allai’r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn hyn o beth fod ddim amlycach. I mi, gellid disgrifio’r ddadl fel dathliad o’r llwybr ry’n ni wedi dewis ei ddilyn gyda’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Read more

Gweithio gyda’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd yn Ysgol (uwchradd) Pentrehafod

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Pentrehafod 1Ysgol Pentrehafod ydym ni. Mae gennym ddiwylliant llawn gofal, rydym yn gwella ein canlyniadau yn gyson ac yn defnyddio’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd (2018) fel sail i weledigaeth ein hysgol, sef sicrhau’r ddarpariaeth orau bosibl i bob un o’n dysgwyr.

Dechreuodd ein taith gyda’r Safonau newydd o ddifrif yn ystod Tymor yr Haf 2017, drwy sefydlu gweithgor i ystyried safbwyntiau a chyfraniadau gan ymarferwyr a oedd ar wahanol gamau o’u gyrfa, o athrawon newydd gymhwyso (ANG) i Arweinwyr Canol ac Uwch Arweinwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o bob rhan o’n clwstwr, ynghyd ag Ysgol Uwchradd leol arall, gwnaethom fabwysiadu dull gweithredu cydweithredol a cholegol i fireinio ac atgyfnerthu ein systemau presennol er mwyn sicrhau bod ein hathrawon yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i weithio gyda’r safonau er mwyn parhau i wella deilliannau dysgu i bob un o’n myfyrwyr. Read more

Animeiddiad – sut y bydd y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn cefnogi’r cwricwlwm newydd

Read this page in English

Bydd gan ysgolion lawer mwy o ryddid i ddatblygu cwricwlwm ar lefel yr ysgol o dan y cwricwlwm cenedlaethol newydd. Bydd pob ymarferwr yn cael ei annog i ailedrych ar ei sgiliau a’u diweddaru i helpu i gyflwyno’r cwricwlwm yn llwyddiannus i’r disgyblion.

Mae’r animeiddiad hwn yn disgrifio’r Dull Cenedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol sydd wedi’i lunio i gefnogi datblygiad ymarferwyr.

Yn ogystal, mae’r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi cyllid sylweddol i gefnogi’r gweithgarwch hwn, sef £9 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn cynyddu i £15 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf i gefnogi athrawon yng Nghymru ers datganoli.

Mae datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegu:

‘Bydd yr arian yn rhoi’r amser ac adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cwricwlwm newydd a sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu llesiant athrawon ac yn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar ddysgu’r disgyblion. Bydd yr arian yn helpu i sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd.

O dan drefn y Dull Cenedlaethol, bydd Dysgu Proffesiynol yn hawl i bob ymarferwr mewn ysgolion, nid athrawon yn unig.

Bydd ysgolion yn cael eu hannog i greu, rhannu a manteisio ar gyfleoedd i ddysgu gydag ysgolion a sefydliadau eraill wrth iddynt weithio gyda’i gilydd mewn clystyrau.

Un o nodweddion mwyaf trawiadol y Dull Cenedlaethol fydd dull cwbl newydd o ymdrin â’r ffordd y mae athrawon yn dysgu. Bydd cymysgedd lawer mwy hygyrch o ddysgu ar gael drwy ranbarthau a phrifysgolion Cymru. Bydd hyn yn cwmpasu dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, dysgu ar-lein, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddi.’

https://gov.wales/newsroom/educationandskills/2018/kirsty-williams-announces-single-biggest-investment-in-support-for-teachers/?skip=1&lang=cy

 

‘Taith Ddyheadol, Ymarferol a Myfyriol’ – Llunio’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Athrawon ac Arweinwyr yng Nghymru

Read this page in English

Langstone Primary School - Blog post Nov 18 - croppedPan ofynnwyd i mi gyntaf ym mis Ionawr 2016 i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, roeddwn yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i chwarae rhan mewn tasg mor ddylanwadol, ond nid oedd gennyf unrhyw syniad o faint y dasg.

Fel ysgol arloesi dysgu proffesiynol, roeddwn yn ymwybodol iawn o’r newidiadau niferus a oedd yn digwydd ym maes addysg yng Nghymru. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ‘Cymwys am Oes’ (2014), sef rhaglen gwella addysg chwe blynedd i Gymru. Cyhoeddwyd ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn fuan ar ôl hyn a oedd yn canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd i Gymru ac ‘Addysgu Athrawon Yfory’ a oedd yn ystyried sut y byddai addysg gychwynnol athrawon yn sicrhau bod gweithlu Cymru yn addas at y diben (y cyntaf ym mis Chwefror a’r ail ym mis Mawrth 2015). Read more

Parchu Gwaith Da Heddiw wrth i ni Edrych Ymlaen at Yfory

Read this page in English

Whitchur primary school 2Ni fu erioed yn adeg fwy cyffrous i addysgu! Rwy’n dweud hyn yn ddiffuant. Mae athrawon yn gweithio mewn cyfnod o newid mawr a phosibiliadau enfawr. Mae’r agenda genedlaethol o greu cwricwlwm wedi ei arwain gan ymarferydd yn newid sylweddol; ac er nad hon yw’r ffordd hawsaf efallai o greu cwricwlwm newydd, yn sicr mae’n un sy’n cydnabod mai athrawon yng Nghymru yw’r rhai sy’n meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i greu cwricwlwm sy’n rhoi’r deilliannau gorau posibl i’n dysgwyr. Fel aelod o ysgol arloesi, bu’n fraint bod yn rhan o’r broses. Read more

Ochr yn ochr – sut mae Dysgu Proffesiynol yn newid ac yn datblygu i helpu athrawon roi’r Cwricwlwm Newydd ar waith, a gwireddu ei amcanion

Read this page in English

Mae Ysgolion Arloesi Dysgu Proffesiynol yn gweithio gydag Ysgolion Arloesi’r Cwricwlwm Newydd i benderfynu pa ddysgu paratoadol fyddai o fudd i ymarferwyr.

Lloyd Mahoney, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a Dafydd Williams o Ysgol O.M. Edwards sy’n siarad am yr hyn y maent wedi ei ddysgu a sut y bydd ymarferwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf .

Lloyd Mahoney

Dafydd Williams

Bydd cefnogaeth ehangach hefyd ar gael i ysgolion. Ruth Thackray o Gonsortiwm GWE sy’n trafod rôl y Consortia a Dave Stacey o ‘Yr Athrofa: Institute of Education’, Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant sy’n ystyried rôl y Sefydliadau Addysg Uwch. Read more

Ysgol Dyffryn Conwy – ein taith tuag at y cwricwlwm newydd fel ysgol uwchradd (a chlwstwr!)

Read this page in English

Ysgol Dyffryn Conwy logoRydym yn ysgol ddwyieithog naturiol i blant rhwng 11 a 18 oed sydd wedi’i lleoli yn ardal wledig Dyffryn Conwy. Mae gennym bartneriaeth gref gydag ysgolion cynradd lleol ac rydym wedi cydweithio â nhw tuag at Dyfodol Llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn ysgol arloesi ond yn gweithio’n helaeth gyda’r rhai nad ydynt yn ysgolion arloesi.

Dechreuodd ein taith drwy baratoi ein cymuned ysgol a’n clwstwr 3-16 o 14 o ysgolion cynradd ar gyfer y Cwricwlwm newydd. Rydym wedi gweithio fel staff ac mewn clwstwr i ddeall gwahanol elfennau’r Cwricwlwm newydd yn well, rhannu’r wybodaeth drwy gyfarfodydd staff, grwpiau arwain a diwrnodau HMS yn yr ysgol ac ar lefel Maes Dysgu a Phrofiad. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag ysgolion Maes Dysgu a Phrofiad eraill a gyda chydweithwyr yn GWE. Read more