Neidio i'r prif gynnwy

Canfod ‘Drws ffrynt’ ein cwricwlwm newydd – stori Ysgol Gyfun Porthcawl fel Arloeswyr y Cwricwlwm eleni

Read this page in English

porthcawl comprehensive for blog

 

Wrth i sŵn carolau Nadolig gario o ddosbarth i ddosbarth ac amrywiaeth helaeth o siwmperi Nadolig ymosod ar ein synhwyrau, rwy’n myfyrio ar daith Ysgol Gyfun Porthcawl ers iddi ymuno â’r broses ysgolion arloesi fis Ionawr y llynedd.  Hoffwn sôn wrthych am yr hyn rydym wedi’i wneud a sut mae wedi teimlo, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn a ddigwyddodd dros yr hydref.

Fel arloeswyr ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol, rydym wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu cwricwlwm ar lefel genedlaethol drwy weithdai misol, cyfarfodydd a chynadleddau, ond hefyd drwy weithgarwch treialu ac arloesi ar lefel ysgol.

Mae diwygio’r cwricwlwm yn broses gymhleth.  Nid yw’r gweithlu addysgu wedi’i hyfforddi yn y grefft o ddatblygu’r cwricwlwm.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar i ni gyd-lunio cwricwlwm, ac mae cydweithwyr ledled Cymru wedi ymgymryd â’r dasg honno gydag ymrwymiad, balchder a brwdfrydedd.

Yma yn Ysgol Gyfun Porthcawl, rydym wedi ymgysylltu â staff a’u hannog i gefnogi’r broses ddiwygio drwy ddefnyddio pob math o ddulliau cyfathrebu – o sesiynau HMS ysgol gyfan, i sesiynau briffio yn y bore, cylchlythyrau, e-byst, graffeg gwybodaeth – cyflwyno gwybodaeth yn raddol a sicrhau na roddir gormod o faich ar athrawon ar yr un pryd. Rydym wedi ceisio cynnwys pob rhan o’n hysgol yn y broses – o’r Pennaeth i’r dysgwyr eu hunain, fel bod gan bawb ymdeimlad o berchnogaeth.

Dyma’r dull rydym hefyd wedi’i ddefnyddio ar gyfer rhwydweithio. O safbwynt arloeswr arweiniol, mae gweithio gyda chlystyrau o ysgolion cynradd, ysgolion yn ein hardal a’n consortiwm, wedi rhoi boddhad mawr a phrofiad ymarferol o’r amrywiaeth o arfer rhagorol, addysgeg arloesol a strwythurau blaengar mewn ysgolion ledled De Cymru.

Mae llawer o bethau cadarnhaol am y broses hon.  Fodd bynnag, mae rhai gwirioneddau anodd hefyd, a gallaf roi sicrwydd i athrawon ledled Cymru bod pob un ohonom yn wynebu pwysau tebyg, p’un a ydym yn ysgolion arloesi neu’n ysgolion partner.  Ar lefel ysgol Gynradd, mae’r cyfrifoldeb am asesiadau athrawon a’r system gategoreiddio yn rhoi straen sylweddol ar y gweithlu; ar lefel ysgol Uwchradd, mae manylebau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch newydd yn rhoi pwysau mawr ar athrawon.  Yr her: cynnal safonau uchel gyda dosbarthiadau arholiadau yn ystod cyfnod o newid tra’n cadw egni a brwdfrydedd i dreialu’r cwricwlwm.

Mae ein rhaglen allgyrsiol yn Ysgol Gyfun Porthcawl, sy’n destun balchder mawr i ni, yn ychwanegu at y pwysau hyn. Rydym yn cynnig cyfleoedd wedi’u cyfoethogi i’n dysgwyr sy’n rhoi llawer o fwynhad ac sydd yn aml yn tanio brwdfrydedd dros y celfyddydau sy’n aros gyda’r rhan fwyaf ohonynt ymhell ar ôl iddynt orffen eu haddysg ffurfiol.  Fodd bynnag, mae her ynghlwm wrth hyn – sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm a’n cymwysterau yr un mor gyffrous, arbrofol ac arloesol i ddysgwyr? Er mwyn cyfuno rhinweddau gwaith cwricwlwm â gweithgareddau allgyrsiol, mae angen ymrwymiad ac ymroddiad athrawon a lefel uchel o sgil.

Cafodd llawer iawn ei gyflawni o ran y broses ehangach o ddiwygio’r cwricwlwm y tymor hwn.  Mae arbenigwyr wedi’u nodi ac wedi’u gwahodd i weithio gyda phob Maes Dysgu a Phrofiad er mwyn helpu i lunio datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’, ac o fis Ionawr, byddwn yn ymgymryd â’r dasg gymhleth o greu naratifau dilyniant ar gyfer pob un o’r datganiadau hynny.  Mae’r angen am ddatganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ yn deillio o waith Wynne Harlen ar y Syniadau Mawr ym Maes Gwyddoniaeth, ond hefyd o rwystredigaeth ein Cadeirydd Celfyddydau Mynegiannol!  Wrth geisio harneisio egni athrawon brwdfrydig a chyndyn eu barn, daeth Vanessa McCarthy â thrafodaeth broffesiynol danbaid i ben mewn un gweithdy gyda chwestiwn allweddol: “beth sy’n wirioneddol bwysig ym mhob un o’ch disgyblaethau? Gadewch i ddechrau o’r fan honno”. Gwnaeth y broses gathartig o fynd i’r afael â manylion pob un o’n disgyblaethau EA ein helpu i ystyried y darlun ehangach a llunio datganiadau mwy cyfannol a chysyniadol.

Yn ddiweddar, gwnaeth Grŵp Cynghori’r Cwricwlwm fyfyrio ar ddatganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’, gan roi adborth ac arweiniad i bob grŵp Maes Dysgu a Phrofiad ar sut i fwrw ati.  Roedd yr hyn a ddywedodd yr Athro Donaldson yn drobwynt yn fy nealltwriaeth o ddiben y datganiadau hyn. Dywedodd y byddent yn “ddrws ffrynt i’ch cwricwlwm.  Efallai na fydd rhai yn darllen y tu hwnt i’r rhan hon o’ch cwricwlwm”.  Roedd y geiriau hynny’n adlewyrchu’r angen i sicrhau bod ein datganiadau yn bwerus, yn ysbrydoledig, yn ddiddorol ac yn creu angen i’r darllenydd ymchwilio ymhellach. Mae angen iddynt adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’n dysgwyr, mae angen iddynt ffurfio’r penawdau ar gyfer y sgiliau, y cynnwys a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddod yn ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol, galluog, iach, hyderus, mentrus, creadigol, moesegol a hyddysg.

Fel rhan o’n cyfraniad at hyn, ac er gwaethaf ein llwyth gwaith trwm, rhoddodd ein hathrawon hyd yn oed yn fwy o’u hamser a’u hegni i’r gwaith diwygio dros yr haf.  Gwnaethom wahodd 186 o ddisgyblion ysgol Gynradd (Blwyddyn 6) i’n hysgol i gymryd rhan mewn gweithdai Celfyddydau, Cerddoriaeth, Drama a Dawns.  Cawsant eu trochi yn ein thema ‘Cylch Bywyd’ o The Lion King ac fe’u hanogwyd i ofyn Cwestiynau Mawr a fyddai’n arwain at eu thema gyntaf ym Mlwyddyn 7 – ‘Antur Affricanaidd’.  Ni wnaethant ein siomi; dangosodd eu cwestiynau fod disgyblion yn gallu arwain dysgu pan ofynnir iddynt wneud hynny; maent yn alluog ac yn chwilfrydig  wrth ofyn cwestiynau.

“Os oedd morgrug yr un faint â llewod, a fyddent yr un mor gryf?”

“Beth fyddai’r canlyniad pe baem yn cyfuno offerynnau modern ag offerynnau    Affricanaidd traddodiadol?”

“A allem greu mygydau clai Affricanaidd sy’n adlewyrchu ein hunaniaethau ein hunain?”

Gofynnwyd llu o Gwestiynau Mawr a’r canlyniad oedd uned waith a agorodd y drysau rhwng yr hyn a ystyriwyd yn seilos pynciau yn flaenorol. A waw! Mae wedi bod yn bleser tanio trafodaethau ar ddechrau gwers gerddoriaeth gyda darn o gelf neu ddod â gwers ddrama i ben drwy wrando ar ddarn o gerddoriaeth a’u dehongli gyda symudiadau.  Mae’r dysgu yn fwy dilys gan mai ein disgyblion sy’n ei lywio, a’i fod wedi’i osod mewn cyd-destun. Mae’n gwneud synnwyr iddynt fod disgyblaethau y mae mynegiad a chreadigrwydd yn ganolog iddynt bellach yn rhannu themâu.

Treialu’r prosiect thematig hwn oedd y tro cyntaf i ni fentro i dir newydd, ond bu’n rhaid i ni roi sawl cynnig arni.  Weithiau, roedd ein gwaith treialu yn arwain at fwy o gwestiynau nag atebion a gofynnodd pob un ohonom gwestiynau ynghylch dyfnder y dysgu – a oedd gormod o weithgarwch arwynebol a dim digon o gynnwys?  A allem arwain o’n ‘Celfyddydau Mynegiannol’ i’n disgyblaethau ar wahân ar gyfer cymwysterau TGAU? A fyddai’r wybodaeth a’r sgiliau yn drosglwyddadwy ac yn berthnasol i’r cam dysgu nesaf?

Yr hyn y gallwn fod yn bositif yn ei gylch yw ein bod wedi gweld potensial gwych ar gyfer datblygiad pellach. Rydym yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig dros barhau oherwydd bod ein dysgwyr yn mwynhau’r profiad. Mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan ein Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, nododd y mwyafrif helaeth o’n grŵp Blwyddyn 7 yn llethol mai’r Celfyddydau Mynegiannol oedd eu hoff ‘bwnc’, sy’n brawf nid yn unig o addysgu gwych ond hefyd o’r manteision hysbys sydd ynghlwm wrth ddysgu creadigol, y dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r cyfleoedd a gynigir i blant fynegi eu hunain.

Rydym yn ysgol draddodiadol, ac fel llawer o ysgolion eraill ledled Cymru, nid oeddem yn awyddus i weithredu’n rhy gyflym a gwneud llawer o newidiadau yn syth.  Rydym yn gweld pa mor bwysig yw gosod y sylfeini gyda gwaith ar addysgeg a dysgu proffesiynol er mwyn sicrhau y gallwn addasu i ba bynnag gynnwys, gwybodaeth a sgiliau y mae ein cwricwlwm newydd yn eu nodi. Ond nawr yw’r amser i ddechrau paratoi, ni waeth pa ysgol rydych yn gweithio ynddi. Mae cymryd camau bach fel ymgorffori dealltwriaeth o’r Pedwar Diben a’r ffordd y cânt eu hadlewyrchu ym mhob lleoliad, gweithio ar y 12 Egwyddor Addysgeg neu ymgorffori argymhellion Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu, i gyd yn ffyrdd y gallwn symud ymlaen yn gadarnhaol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm.  Os yw’r sylfeini’n gryf, gallwn addasu i’r cynnwys sy’n dilyn.

Nawr, dyna ddigon o realiti – nôl i’r gerddoriaeth Nadoligaidd, y siwmperi lliwgar a’r gobaith sy’n rhan o’r Nadolig!  Efallai bod rhai ohonom yn gobeithio gweld cwricwlwm cyffrous llawn adnoddau yn ein hosanau ar ddydd Nadolig… fodd bynnag, mae gwybod bod cydweithwyr ledled Cymru wrthi’n llunio cwricwlwm arloesol, diddorol a dilys ar gyfer dysgwyr Cymru yn ddigon o gyffro i mi.  Fe ddaw, ond bydd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar, yn union fel aros am Siôn Corn!

Kathryn Lewis, Athrawess Miwsig, Ysgol Gyfun Porthcawl.

o.n. Nodyn gweddol ffurfiol ar addysgeg i orffen:

Rwy’n sylweddoli nawr bod ymgorffori arferion dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, deall a defnyddio addysgeg berthnasol a sicrhau bod gennym y ddogfennaeth a’r llenyddiaeth ddiweddaraf, yn rhan o’r ffordd y gallwn ni fel athrawon fod yn rhan o’r broses ddysgu ac, yn y pen draw, lywio ein cwricwlwm.  Mae diwrnodau ‘diymadferthwch dysgedig – dywedwch wrthym beth i’w wneud’ (Priestley, 2017) wedi dod i ben; mae angen i ni ddatblygu ochr yn ochr â’r nodau a’r weledigaeth ar gyfer ein cwricwlwm.  Mae ein Safonau Addysgu Proffesiynol newydd yn enghraifft o hyn ac yn adlewyrchu’r ffaith bod addysgu yn broffesiwn sy’n newid o hyd – does neb byth yn “gorffen” dysgu sut i addysgu (Breaux, Whitaker, 2016).

Gadael ymateb