Roedd ein Tîm Arwain yn Ysgol Eirias yn awyddus i gael gafael ar strategaethau effeithiol er mwyn meithrin gallu yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd. Felly, roeddem yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddefnyddio saith dimensiwn model SLO ar gyfer Cymru i’n helpu i symud ymlaen.
Tachwedd 2017
Mae cwricwlwm ysgol newydd yn gofyn am ddiwylliant dysgu newydd. Mae’n dechrau yma.
Mae creu diwylliant dysgu ffyniannus mewn ysgolion ar draws Cymru yn hanfodol er mwyn cyflwyno ein cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Mae grŵp o ysgolion, gyda chefnogaeth yr OECD, wedi bod wrthi’n datblygu model i gyflawni hyn.
Sut helpodd Hwb athrawon a disgyblion gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd, Llanelli
“Gwnaethom gymryd ymagwedd ysgol gyfan tuag at godi cymhwysedd digidol: athrawon yn dysgu wrth ochr disgyblion, adrannau’n rhannu arfer. Dyma grynodeb o’r hyn a wnaethom:’’
A Fydd Cymwysterau’n Newid yn Sgil y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru?
Rydym wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen newydd ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2020.