C: Pam rydym yn cynnal diwygiadau addysg?
A: Mae’r byd yn newid yn gyflym i bobl ifanc heddiw. Mae’n rhaid i ysgolion eu paratoi at swyddi nad ydynt efallai wedi cael eu creu eto a heriau nad ydym wedi dod ar eu traws eto. Felly mae’n rhaid i ni ddiweddaru’r hyn rydym yn ei addysgu iddynt a’r ffordd rydym yn eu haddysgu. Mae ein diwygiadau’n canolbwyntio ar safonau llythrennedd a rhifedd uwch, yn ogystal â sgiliau digidol, fel ein bod yn gwella gwybodaeth a sgiliau ein pobl ifanc.
Rydym am godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol.
C: Beth yw’r diwygiadau?
A: Mae cwricwlwm newydd i blant 3 – 16 oed wrth wraidd y diwygiadau. Er mwyn sicrhau bod y system gyfan yn gwella, mae pedwar maes allweddol sy’n cefnogi hyn: proffesiwn addysg o safon uchel, arweinwyr ac arweinyddiaeth ysbrydolus, ysgolion cynhwysol sy’n canolbwyntio ar degwch, rhagoriaeth a lles disgyblion, a threfniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn ar bob lefel.
- Cwricwlwm newydd: Addysgu plant i feddwl, cyfathrebu, bod yn gymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog a chydweithio’n well, yn ogystal â dysgu am feysydd pwnc
- Datblygu proffesiwn addysg o safon uchel: newid hyfforddiant athrawon newydd a helpu’r rhai presennol i ddiweddaru eu sgiliau
- Arweinwyr ysbrydolus yn cydweithio er mwyn codi safonau: cyflwyno academi arweinyddiaeth newydd er mwyn gwella’r ffordd mae arweinwyr yn cael eu datblygu
- Rhagoriaeth, tegwch a lles mewn ysgolion cynhwysol: creu diwylliant o barch a her lle mae pawb yn barod i ddysgu, gan gynnwys ehangu’r Grant Datblygu Disgyblion, cefnogi ein dysgwyr ‘mwy abl’ yn well a chefnogi a mesur lles.
- Trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy’n cefnogi system hunanwella: dulliau newydd o asesu cynnydd ar lefel disgybl ac ysgol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd, ynghyd ag ymagwedd newydd at gydweithredu a rhannu arfer gorau rhwng ysgolion
C: Pam mae cynifer o bethau’n newid ar unwaith?
A: Cwricwlwm a threfniadau asesu newydd sydd wrth wraidd y newidiadau, ond ni fyddant yn llwyddo i godi safonau ar eu pennau eu hunain. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol (amcanion galluogi) er mwyn helpu i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Mae’r rhaglen ddiwygio’n ddull gweithredu cydlynol a chysylltiedig. Mae pob un yn atgyfnerthu ei gilydd wrth i ni ganolbwyntio ar godi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.
C: Pryd y bydd y cwricwlwm newydd ar gael a sut y caiff ei gyflwyno fesul cam?
A: Cafodd y rhan gyntaf, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ei rhoi ar lwybr carlam er mwyn bod ar gael ym mis Medi 2016. Bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion yn 2019 ar gyfer adborth, a chaiff ei gyflwyno’n derfynol erbyn 2020. Yna, bydd cyfnod i ysgolion barotoi ac ymgyfarwyddo ag ef. Caiff ei gyflwyno i flynyddoedd Meithrin – Blwyddyn 7 yn 2022 ac yna ei gyflwyno i Flynyddoedd 8 – 11 rhwng 2023 a 2026.
C: A fydd yn golygu mwy o waith papur i athrawon?
A: Na fydd. Os rhywbeth, bydd yn golygu llai. Nod y diwygiadau yw lleihau biwrocratiaeth ddiangen drwy roi eglurder ynghylch yr hyn sydd ei angen a’r hyn nad oes ei angen yn yr ystafell ddosbarth. Bydd cyhoeddiad diweddar Ysgrifennydd y Cabinet o £1.2m i wella’r defnydd o reolwyr busnes mewn ysgolion yn helpu penaethiaid i ganolbwyntio ar addysgu a dysgu, yn hytrach na chyllidebau a chontractau.
C: A fydd cymorth i athrawon/ymarferwyr?
Safon yr athro ym mlaen yr ystafell ddosbarth yw’r rhan bwysicaf o system addysg. Byddwn yn sefydlu dull Cymru gyfan mewn perthynas â dysgu a datblygu athrawon, cyflwyno safonau newydd, diwygio hyfforddiant athrawon, diwygio’r cymhwyster i benaethiaid a chefnogi a nodi arweinwyr ysgol y dyfodol yn well.
C: Sut y caiff ysgolion eu cefnogi i roi newidiadau ar waith?
A: Bydd y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion yn eu rhanbarthau, gan gyfleu diweddariadau, cynnig datblygiad ymarferwyr, a chefnogi cydweithio rhwng ysgolion wrth i’r diwygiadau ddigwydd a’r tu hwnt.
C: A fydd hyfforddiant athrawon newydd yn newid?
A: Bydd hyfforddiant i athrawon newydd yn newid yn 2019 gyda phartneriaethau cryfach rhwng prifysgolion ac ysgolion.
C: Pam mae gennym safonau addysgu newydd?
A: Er mwyn helpu ymarferwyr i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes, sy’n fwy hyderus wrth reoli eu datblygiad ac yn gallu datblygu’r cwricwlwm newydd yn well. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n hanfodol ar gyfer addysgu’n llwyddiannus, fel ein bod yn codi safonau i bob disgybl.
C: A fydd cymwysterau’n newid er mwyn bod yn addas ar gyfer y cwricwlwm newydd?
A: Bydd cymwysterau TGAU yn parhau. Fodd bynnag, bydd Cymwysterau Cymru yn eu hadolygu o 2020, a bydd addysgu tuag at y cymwysterau TGAU diwygiedig yn dechrau yn 2024.
C: A fydd atebolrwydd yn newid?
A: Bydd. Caiff Fframwaith Asesu a Gwerthuso newydd ei gyflwyno, gan helpu i wireddu pedwar diben addysg fel y nodir yn y cwricwlwm newydd.
C: A yw Estyn yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd?
A: Ydy, mae wedi cymryd rhan yn llawn. Mae’r Athro Donaldson, sydd wedi helpu i ddiwygio’r cwricwlwm, wrthi’n cynnal adolygiad er mwyn sicrhau y gall Estyn gysoni ei waith yn well â’r cwricwlwm a threfniadau asesu newydd pan gânt eu cyflwyno.