Lansiwyd Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun gweithredu 2017–21 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, heddiw. Mae’n disgrifio sut y bydd y diwygiadau i addysg yng Nghymru yn cefnogi’r broses o gyflwyno cwricwlwm newydd er mwyn inni allu sicrhau’r deilliannau yr ydym oll am eu gweld ar gyfer ein plant.
Mae’r cynllun gweithredu yn nodi amserlen glir a thryloyw ar gyfer datblygu a darparu ein trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd.
Mae’r cynllun gweithredu ar gyfer addysg 2017–21 yn gosod allan y brif amcan strategol a’r bedair amcan galluogi ar gyfer cyflwyno cwricwlwm newydd i blant 3 i 16 oed.