‘Mae’r disgyblion yn ei fwynhau. Mae hyd a dyfnder eu gwaith ysgrifenedig yn well, mae llafaredd yn well o lawer …’
Ysgol Olchfa yn Abertawe yw un o’r ysgolion mwyaf yng Nghymru. Mae ganddi 1,700 o ddisgyblion, gan gynnwys bron 400 o fyfyrwyr yn y Chweched Dosbarth.
C: A yw’n wir eich bod eisoes yn arddel egwyddorion ‘Dyfodol Llwyddiannus’?
A: Ydy, ond lwc, nid dyluniad, yw’r rheswm pam mae’r hyn rydym yn ei wneud yn cyd-fynd cymaint â syniadau Donaldson. Roeddem yn teimlo bod y cwricwlwm o flwyddyn 7 ymlaen yn rhy gul. Felly, erbyn 2005, roeddem eisoes yn gweithio ar gwricwlwm ‘deallus’ a gafodd ei ysbrydoli gan y gwaith a welsom ym Mryste. Roedd yn fwy seiliedig ar sgiliau, ond yn dechrau gyda gwybodaeth bob tro.
Unwaith, cyfeiriodd y cyn-Weinidog Addysg, Huw Lewis, at Gyfnod Allweddol 3 – y cyfnod ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 14 oed – fel ‘blynyddoedd sy’n cael eu gwastraffu’ yn yr ysgol, gan mai dim ond at ddibenion paratoi myfyrwyr ar gyfer maes llafur TGAU y cawsant eu defnyddio. Roeddem am gynhyrchu myfyrwyr mwy cyflawn a oedd yn gallu dysgu’n annibynnol. Pan welsom Bedwar Diben Donaldson, roeddent yn cyd-fynd yn syth â’r hyn roeddem yn ceisio ei wneud.
C: Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
A: Gwnaethom ddechrau grwpio pynciau gyda’r syniad o chwalu rhwystrau pynciau, gan gysylltu meysydd dysgu er mwyn gwneud gwersi yn fwy perthnasol a difyr. Os byddwn yn addysgu prosiect am greu gêm gyfrifiadurol, pam na fyddem yn cynnwys moeseg, llesiant ac entrepreneuriaeth yn ogystal â mathemateg, meddwl yn gyfrifiadurol a chodio?
C: A ydych yn gwneud hyn yn raddol?
A: Gwnaethom ddechrau arni drwy newid ein strwythur rheoli fel nad oedd yn ymdrin â phynciau unigol. Pan oedd gennym strwythur a oedd yn seiliedig ar grwpiau o bynciau, roeddem yn barod i ddechrau arni. Ond mae wedi digwydd drwy esblygu; rhoi cynnig ar bethau newydd, herio ein hunain, a pheidio â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth a methu – dysgu o hynny.
C: Beth oedd y goblygiadau i arweinyddiaeth?
A: Roeddem yn ffodus nad oedd yn anodd darbwyllo’r uwch dîm – roedd bron yn aros amdano. Roedd lleihau nifer yr arweinwyr maes pwnc o 16 i 6 yn broblem o bosibl, am fod pobl yn poeni am eu swyddi a’u lwfansau cyfrifoldeb arweiniol, ond gwnaethom gadw popeth yn agored ac yn dryloyw a datrys pethau mewn modd cadarnhaol.
C: A wnaethoch hyrwyddo’r newid mewn ffordd benodol?
A: Nid oedd llawer o wrthwynebiad i’r newidiadau. Rydym wedi bod yn agored ac wedi annog arbrofi. Rydym wedi cynnwys pawb ar hyd y ffordd a chymedroli er mwyn helpu pobl i weithio gyda’i gilydd. Gwnaethom fuddsoddi mewn amser rheoli i’r chwe arweinydd maes pwnc gefnogi staff a gwella ansawdd.
Roedd gennym rai ‘amheuwyr iach’ ond, ar y cyfan, roedd staff yn gadarnhaol am y rhyddid roedd y newid yn ei gynnig. Mae’r amheuwyr hyd yn oed yn mwynhau’r newid nawr eu bod wedi’u cynnwys yn y broses.
C: A oedd eich statws ‘Ysgol Arloesi’ yn bwysig/defnyddiol?
A: Cawsom rywfaint o gyllid am ein bod yn Ysgol Arloesi, ac roeddem yn gwerthfawrogi cymryd rhan, ond ein dull arwain a wnaeth baratoi’r ffordd i ni.
C: A oedd angen datblygu athrawon i fabwysiadu’r dull gweithredu newydd? Pa fath o ddatblygiad?
A: Gwnaethom eu cynnwys o’r dechrau yn hytrach na’u hyfforddi wedyn, felly roeddent yn deall y dull gweithredu. Gall fod yn anodd i athrawon wneud hyn, ond roedd pob un ohonom yn yr un cwch.
C: Sut mae’r dull gweithredu newydd yn amlygu ei hun yn yr ystafell ddosbarth?
A: Rydym wedi rhoi’r gorau i wthio pynciau i gamau byr. Rydym yn defnyddio prosiectau sy’n ennyn diddordeb y disgyblion, sy’n cynnwys grŵp o bynciau, ac sy’n galluogi’r plant i feddwl a bod yn greadigol yn hytrach na chasglu ffeithiau.
C: Sut mae eich disgyblion yn ymateb?
A: Mae’r disgyblion yn ei fwynhau. Mae hyd a dyfnder eu gwaith ysgrifenedig yn well, mae llafaredd yn well o lawer, ac maent yn fodlon rhoi adborth i athrawon ar ddull gweithredu ac ansawdd y gwersi – weithiau yn rhy fodlon!
C: Beth yw barn rhieni?
A: Nid yw’r rhieni wedi gwrthwynebu dilyn hyn. Gwnaethom ddechrau fforymau er mwyn ceisio eu barn, ond dim ond rhywfaint ohonynt a gyflwynodd sylwadau. Pan rydym yn esbonio ein cysyniad ‘iLearn’, maent yn ei gefnogi gant y cant.
C: Unrhyw broblemau gyda chymwysterau?
A: Mae’n iawn! Mae’r cynnwys yn berthnasol, mae sgiliau yn gwella ac mae disgyblion yn llawn brwdfrydedd. Ni fydd yn eu hatal yn bendant.
C: Unrhyw broblemau gydag atebolrwydd?
A: Nid ydym yn poeni. Nid oes gennym dystiolaeth o effaith y newid eto gan nad ydym wedi bod drwy gylch llawn, ond rydym yn disgwyl canlyniadau cadarnhaol. Yn ddiweddar, cafodd rhai o’n disgyblion eu dewis i sefyll prawf PISA, a gwnaethant ragori ar ein disgwyliadau.
C: A yw Llywodraethwyr wedi bod yn gefnogol?
A: Yn gefnogol iawn. Gwnaethom roi’r cyd-destun iddynt, ac roeddent yn hapus. Maent yn ymddiried ynom – rydym yn dîm sefydledig.
C: Beth yw eich cyngor i ysgolion eraill sydd am ddechrau eu taith cwricwlwm newydd nawr?
A: Mae dechrau arni gyda’r strwythur rheoli cywir yn hollbwysig. Mae angen i hynny ddod yn gyntaf. Gwnaethom ailstrwythuro er mwyn cael chwe arweinydd maes dysgu i gyd-fynd â’n strwythur ‘iLearn’. Yna, roedd yr uwch dîm yn gallu gweithio gyda nhw i ddechrau gweithredu pob grŵp blwyddyn. Yn ddelfrydol, mae angen i hwn gael ei gyflwyno er mwyn iddo allu esblygu.
Mae cael rheolwyr dysgu ar gyfer pob maes ‘iLearn’ yn ddefnyddiol iawn i ysgol o’n maint ni.
O ran datblygiad, rydym yn hoffi defnyddio cyrsiau yn llai a chynnwys pobl yn y gwaith o adeiladu’r cwricwlwm yn fwy, sy’n allweddol er mwyn datblygu eu sgiliau.
Gair i gall olaf yw peidio ag aros i hyn ddigwydd. Dechreuwch sicrhau cefnogaeth yn gynnar.
Diolch yn fawr i uwch dîm Ysgol Olchfa; Y Pennaeth Hugh Davies, y Pennaeth Cynorthwyol Jim Probert, a’r Cyfarwyddwr Dysgu Nicola Bekmezci.