Ar wefan Hwb, rydym yn diweddaru ein hadnoddau yn gyson i helpu athrawon i gyflwyno gwersi deniadol i’w dysgwyr. A wyddoch chi ein bod yn cynnig ystod o adnoddau dwyieithog i helpu i gyflwyno cymhwysedd digidol?
Yn dilyn lansiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ym mis Medi 2016, cynhyrchwyd amrywiaeth eang o adnoddau sy’n cwmpasu holl Linynnau ac Elfennau’r Fframwaith yn ogystal â meysydd mwy penodol megis codio. Mae’r wefan hefyd yn annog ymarferwyr i ddatblygu eu cymhwysedd digidol trwy ddefnyddio offer pwrpasol megis Rhestrau chwarae i gynhyrchu eu hadnoddau eu hunain. Yna gellir rhannu’r rhain gydag eraill yn y Gymuned Hwb.
Mae Hwb hefyd yn cynnal y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol bob blwyddyn, llwyfan pwysig i ymarferwyr nodi a rhannu arferion digidol da sy’n digwydd mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Canolbwyntiodd digwyddiad eleni ar weithredu’r Fframwaith. Sefydlwyd marchnad syniadau digidol i gwmpasu’r holl themâu ar draws a chrëwyd adnoddau newydd gan ymarferwyr sydd bellach yn cael eu cynnal ar Hwb.
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau Barefoot sy’n helpu athrawon cynradd i ddysgu meddwl yn gyfrifiadurol yn hyderus. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, ac mae’r adnoddau creadigol hyn yn dangos sut y gellir integreiddio cyfrifiaduron i’r cwricwlwm cynradd mewn ffyrdd trawsgwricwlaidd.
Dim ond blas o’r hyn sydd gan Hwb i’w gynnig yw hyn ac rydym yn cyrchu a chynhyrchu adnoddau yn barhaus i gefnogi gweithredu cymhwysedd digidol. Ewch i’r ardal Cymhwysedd digidol ar Hwb heddiw i weld yr holl adnoddau hyn a mwy.
Nia Davies, Uwch Reolydd Cynnwys Digidol, Hwb