Pen-blwydd cyntaf y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Yn y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol fis Mehefin, clywyd sawl siaradwr gwadd yn nodi bod ein cydweithwyr yr ochr arall i Glawdd Offa yn cenfigennu wrth ffordd Cymru o fynd i’r afael â chymhwysedd digidol. Dylai hynny fod yn destun balchder i Gymru, ond yn fwy na hynny mae’n dangos y bydd ein plant wir yn barod ar gyfer byd sy’n dod yn gynyddol ddigidol pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae wedi bod yn wych gweld ysgolion mor gadarnhaol, yn ystod y flwyddyn gyntaf hon, wrth arbrofi â’r Fframwaith a defnyddio’r offeryn mapio i gymharu’r gwaith da y maen nhw eisoes yn ei wneud yn erbyn y gofynion.
Rwy’n gobeithio erbyn inni gyrraedd yr ail ben-blwydd y bydd yr holl athrawon yn teimlo’n fwy hyderus wrth gynnwys cymhwysedd digidol yn eu gwersi. Bydd mwy a mwy o gyfleoedd dysgu yn cael eu cynnig i athrawon dros y flwyddyn nesaf i’w helpu i wneud hynny.
Mae Ysgolion Arloesi Digidol bellach yn mynd ati’n frwd i helpu ysgolion eraill i roi’r Fframwaith ar waith. Maen nhw, ar y cyd â’r Consortia addysg rhanbarthol, wedi croesawu’r cyfle i weithio mewn partneriaeth i gefnogi ysgolion i ddatblygu’r arbenigedd y mae ei angen arnynt.
Mewn cyfnod lle mae’r byd yn newid yn gyflymach nag erioed o’r blaen, mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ymateb gwych a bydd yn ein helpu i ddiogelu dysgu digidol ein plant at y dyfodol. Nid yw’n syndod fod gwledydd eraill yn genfigennus!
Steve Davies
Cyfarwyddwr Addysg ac Ysgolion
Llwyodraeth Cymru