Neidio i'r prif gynnwy

Symud Ymlaen â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Read this page in English

1609DIGITAL05

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn dathlu diwedd ei flwyddyn gyntaf mewn ysgolion ers ei gyflwyno. Ers iddo gael ei gyhoeddi, mae ysgolion yng Nghymru wedi cofleidio’r Fframwaith, wedi archwilio’r sgiliau ac wedi edrych ymlaen at ddyfodol digidol. Mae’r adborth gan ysgolion wedi bod yn hynod o bwysig ac mae’r Arloeswyr Digidol wedi derbyn y sylwadau a’r awgrymiadau gan ysgolion ym mhob maes a lleoliad ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau bod y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn symud ymlaen ac yn cefnogi Cymru yn ei hymgais i fod yn arweinydd byd-eang mewn sgiliau digidol, mae gwaith mireinio wedi’i wneud i’r sgiliau o ganlyniad uniongyrchol i’r adborth a gafwyd gan athrawon ac arweinwyr ysgolion. Mae hynny’n cynnwys aralleirio nifer o’r datganiadau i wneud y disgwyliadau’n fwy clir a symud sgiliau i grwpiau blwyddyn yn uwch er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn nes â disgwyliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol gan sicrhau bod lefel yr her yn briodol er mwyn bodloni gofynion dyfodol digidol.

Ni fydd angen i athrawon sydd wedi paratoi’r cwricwlwm digidol ar gyfer y flwyddyn bryderu dim fodd bynnag gan mai ychydig o waith mireinio a wnaed i bob pwrpas. Ni fydd angen diwygio gwersi, tasgau a phrosiectau a gynlluniwyd ar gyfer mis Medi.

Mae’r teclyn mapio a’r daenlen o’r Fframwaith hefyd wedi’u diweddau yn unol â’r newidiadau a wnaed.

Ian Timbrell, St Gwladys Bargoed School

Gadael ymateb