Bydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn rhoi mwy o ryddid i athrawon i ddysgu mewn ffyrdd a fydd yn sicrhau deilliannau gwell i’w disgyblion. I gefnogi addysgeg arloesol, bydd angen gweithio, o bryd i’w gilydd, gyda sefydliadau neu unigolion y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth neu’r ysgol.
Yn ystod Llinyn 1 o’r broses Diwygio’r Cwricwlwm, roedd hyn yn thema allweddol i’r Gweithgor Cyfoethogi a Phrofiadau – roedd athrawon yn cytuno bod manteisio ar brofiad a gwybodaeth pobl o’r tu allan i’r ysgol, naill ai drwy eu gwahodd i’r ysgol neu drwy fynd ar ymweliadau, yn gwneud dysgu’n fwy ‘real’, yn fwy effeithiol ac yn fwy ystyrlon. Mae hyn wedi’i gario ymlaen i’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn Llinyn 2 a chaiff ei ddatblygu ymhellach eto yn Llinyn 3.
I achub y blaen ac annog cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, trefnodd Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg gynhadledd yng Nghasnewydd ar ddiwedd tymor yr haf er mwyn i athrawon gael rhannu eu llwyddiannau o ran cyfoethogi dysgu a dysgu drwy brofiadau, a chwrdd â sefydliadau eraill er mwyn gweithio gyda nhw mewn ffordd greadigol. Bu i athrawon, staff a llywodraethwyr o bump awdurdod lleol gwrdd mewn canolfan arddangos â 41 o wahanol sefydliadau o’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, elusennau, grwpiau cymunedol, busnesau preifat a mentrau.
Roedd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Heol-ddu, Patrick Brunnock, yno – dyma bwt ganddo am sut aeth y digwyddiad:
‘Dylai ein ‘persona’ addysgu fod yn greadigol ac yn arloesol. Felly mae fy mos wedi ymddiried ynof i danio newid yn y ffordd rydym yn ymdrin â dysgu ac addysgu yn Heolddu, ysgol gyfun gymysg yng nghanol Cwm Rhymni. Gyda’r newidiadau cyfredol yn effeithio ar ysgolion uwchradd bach, mae hefyd yn profi fy mhenderfynoldeb gyda chyfrifoldeb dros gryfhau’r ffocws cymunedol.
Yn fy sesiynau CPCP diweddar, gwnaeth y gweithdai a oedd yn cael eu rhedeg gan gydweithwyr ledled Gwent argraff arnaf ac roeddwn wedi cyffroi, ac yn teimlo bod y profiadau o’r hyn a oedd wedi gweithio a’r hyn nad oedd wedi gweithio yn graff iawn. Rhoddodd hynny fraw i mi.
Wrth feddwl am y ffocws cymunedol, bu’n rhaid i mi werthfawrogi er bod agweddau ar gymuned yn chwarae rhan enfawr yn fy ysgol, nid oedd unrhyw un yn cymryd cyfrifoldeb dros y darlun cyfan, nac yn monitro gweithgarwch. Roedd rhai meysydd dysgu yn rhedeg prosiectau yn unigol; nid oedd rhai yn rhedeg prosiectau o gwbl.
Felly gofynnais i mi fy hun – pa mor anodd y gallai fod i gydweithredu ag asiantaethau eraill ac annog cydweithio ag athrawon a chydweithwyr i wella dysgu a lles pob disgybl?
Fel pob uwch arweinydd rwy’n ceisio cydbwyso fy niwrnodau, ac roedd angen i mi ddod o hyd i ffordd, nid yn unig i siarad ag asiantaethau allanol, ond hefyd i ddarganfod beth oedd ganddynt i’w gynnig i ni fel ysgol.
Roedd Digwyddiad Cyfoethogi a Phrofiadau’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg 2017 yn swnio’n ddelfrydol. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn mae’r holl staff yn brysur yn cynllunio ac yn gweithio i wella eu meysydd. Pwy y gallwn ei gymryd gyda mi i rannu’r digwyddiad hwn? Ar y pwynt hwn, daeth Cadeirydd y Llywodraethwyr i mewn i’m swyddfa. Bob dydd Llun, mae’n gwneud pwynt o alw heibio i weld y Pennaeth – mae Lynne yn gyfeillgar, yn ofalgar ac fel y rhan fwyaf o Gadeiryddion yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn dipyn o geffyl blaen. Pan ofynnodd i mi beth roeddwn yn ei wneud, esboniais yr hyn roeddwn yn bwriadu ei wneud. “Gwna i ddod!” A oedd Cadeirydd y Llywodraethwyr newydd wahodd ei hun? “A gobeithio bydd pobl gyfeillgar a chinio bys a bawd da yno!” dywedodd!
Wedi meddwl am hyn, roedd yn syniad eithaf da. Rwy’n chwilio am gymorth ‘am ddim/costeffeithiol’ o ffynonellau allanol ac nid yw Lynne yn dal yn ôl wrth geisio cael y gorau ar gyfer ein disgyblion. Beth allai fynd o’i le?
Roedd y gynhadledd ei hun yn eithaf brawychus. Roedd stondinau arddangos ym mhob man gan amrywiaeth o rwydweithiau cymorth allanol. Roedd hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn cynhadledd unigryw gyda grŵp penodol o arweinwyr academaidd ac arweinwyr asiantaethau yn rhannu profiadau â’i gilydd mewn un ystafell.
Wrth bob stondin arddangos cawsom groeso gyda gwên a gwybodaeth allweddol. Roedd yn dda i weld pobl yn cymryd rhan yn y gwaith o helpu ein disgyblion. Roedd y cyflwyniadau yn ein galluogi i weld pa mor dda roedd ysgolion eraill wedi bod yn cydweithredu a pha effaith y gallai hyn ei gael ar yr amgylchedd dysgu.
Roedd rhan o’r broses gyflwyno yn gysylltiedig â ‘dysgu o brofiad’ – lle roedd yn rhaid i ni ddal dwylo. Nid wyf erioed wedi dal dwylo gyda Chadeirydd y Llywodraethwyr, a ni fyddaf byth yn cael y cyfle i ddal ei llaw eto fwy na thebyg…
Gwnaethom adael ar ddiwedd y dydd gyda bag yn llawn adnoddau a llyfr nodiadau yn llawn cysylltiadau gan asiantaethau, busnesau ac elusennau.
Mae gennyf bellach y wybodaeth angenrheidiol i’w rhannu â’n harweinwyr pwnc. Drwy ‘ddatblygu a gweithio gydag eraill’ a ‘chryfhau’r ffocws cymunedol’ byddwn yn bwriadu cydweithio â’n cysylltiadau newydd wrth i ni wthio i dywys ein hysgol i lefel arall. Yr her i mi yw creu cyfeiriad strategol a defnyddio’r adnoddau hyn er budd pob disgybl yn Ysgol Gyfun Heolddu.
Patrick Brunnock
Dirprwy Bennaeth, Ysgol Gyfun Heolddu