Mae’n amser cyffrous ym maes dysgu digidol! Mae ysgolion wedi cael blwyddyn gyfan erbyn hyn i ymgyfarwyddo â’r Fframwaith a dylai’r arweinwyr fod wrthi nawr yn cynllunio ffyrdd o annog a chefnogi’r holl athrawon ac ymarferwyr i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio’r Fframwaith yn eu haddysgu yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Gan adeiladu ar hyn felly, dylai ysgolion ddechrau datblygu gweledigaeth ar gyfer y Fframwaith a dysgu digidol yn eu hysgolion.
Edrychwch ar Hwb a hefyd ar y Blog am adnoddau, cyngor ymarferol ac enghreifftiau o sut mae defnyddio’r Fframwaith wrth gynllunio ac yn rhan o’ch arferion yn y dosbarth.
Cofiwch ddefnyddio #CymhwyseddDigidol pan fyddwch yn trydar am eich gweithgareddau digidol!