Neidio i'r prif gynnwy

Gydag ychydig o gymorth i’n ffrindiau: Help gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Read this page in English

Digital Colwyn Bay-22

Rydym yn ysgol Arloesi ac wedi bod yn gweithio ar faes Meddwl Cyfrifiadurol y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae hynny ar ei ben ei hun yn llond ceg, ac ar ôl siarad â chydweithwyr o’n clwstwr yn y gogledd, gwnaethom sylwi’n fuan fod angen i ni gynnig cymorth er mwyn i gyd-athrawon ddeall y Fframwaith. Felly, gan weithio gydag Ysgol Cynfran, ysgol leol o’n clwstwr, gwnaethom gynnal sesiynau ar ôl ysgol. I ddechrau, roeddem am eu helpu i ddeall sut y gallent fynd ati i ddarparu’r FfCD.

Er gwaethaf eu hansicrwydd, pan gyrhaeddodd staff Cynfran, roedd pob un ohonynt yn barod am yr her ac wedi ymgysylltu’n dda yn y drafodaeth am gymhwysedd digidol plant. Ar ôl ychydig, gwnaethant hefyd ganfod – fel, rwy’n siŵr, y bydd staff mewn nifer o ysgolion – eu bod eisoes yn diwallu ac, mewn rhai achosion, yn rhagori ar anghenion y fframwaith mewn rhai meysydd. Yr hyn roedd ei angen arnynt oedd ychydig o gyfeiriad ac amser i gynllunio ymlaen llaw.

Dywedodd Mark Emberton o Gynfran:

“I ddechrau, roeddwn yn cynnal ‘Wythnos FfCD’ er mwyn canolbwyntio ar y mathau o sgiliau a gafodd eu cwmpasu a’u cymhwyso. Ar ôl hyn, gwnaethom gynnwys yr FfCD yn ein cynlluniau canol tymor, gan chwilio am feysydd pwnc a gweithgareddau a’u dewis.”

Gan adeiladu ar hyn, aethom ati i ystyried y cynlluniau gwaith ym mhob cyfnod allweddol yn yr ysgol a thynnu sylw at yr hyn a oedd eisoes yn ymarfer da. Gwnaethom gytuno, dros yr hanner tymor nesaf, y byddai staff yn mynd â’u syniadau yn ôl i’r ysgol, eu treialu â’u dosbarthiadau a mireinio eu gwaith cynllunio cyn ein cyfarfod nesaf.

Roedd y sesiwn ddilynol ar yr un ffurf, gan dynnu sylw at yr hyn oedd yn gweithio’n dda yn eu hysgol, gan ddefnyddio hyn fel catalydd i ymgorffori’r fframwaith ymhellach i mewn i’w haddysgu.

Ychwanegodd Mark:

“Mae’r FfCD wedi’i gynnwys yn rheolaidd ar agendâu cyfarfodydd staff gyda thrafodaeth agored ar syniadau ar gyfer datblygu. Yn bersonol, rwy’n ystyried y ddogfen yn eithaf hawdd i’w deall a’i chynnwys yn fy ngwaith cynllunio bob tymor. Rwyf wedi bod yn llwyddiannus o ran defnyddio meddalwedd na fyddaf wedi’i defnyddio mor fanwl. Mae hefyd wedi newid fy null o gynllunio gweithgareddau a sgiliau drwy gydol y cwricwlwm; byddaf yn monitro ac asesu’r ffordd rwy’n cynnwys yr FfCD yn fy ngwaith cynllunio a sut y gallaf ei ddefnyddio i barhau i fonitro’r cyfleoedd addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth.”

Pan oedd yn amser cynnal y sesiwn cymorth olaf gyda Cynfran ar ôl rhyddhau’r FfCD priodol, cawsom ein syfrdanu gyda’r hyn y gwnaethant ei gynnig. Cafodd ei mapio ledled eu cynlluniau gwaith ym mhob blwyddyn ysgol. Ac maent wedi mynd â hynny ymhellach drwy gyflwyno clwb codio a chlwb ‘Digidol’ ar ôl ysgol, gan gynyddu’r defnydd o’r Hwb i gynnwys arolygon ar gyfer seibr ddiogelwch, ac mae hyd yn oed Blwyddyn 4 yn gweithio ochr yn ochr â Blwyddyn 3 i gynllunio uned gwaith.

Er gwaethaf y pryderon amlwg ynglŷn â DPP, mae’n glir bod mynd i’r afael ag elfennau’r FfCD mewn ffordd a gynlluniwyd ymlaen llaw, dros amser, wedi sicrhau bod Ysgol Cynfran yn y lle gorau posibl er mwyn sicrhau y caiff y Fframwaith ei ddarparu i’r plant gan staff y mae ei hyder cynyddol yn cael effaith gadarnhaol ar yr ystafell ddosbarth.

Allen Heard, Ysgol Bryn Elian

Gadael ymateb