Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw’r Wi-Fi wedi torri – rhaid bod problem ar eich pen chi?

Read this page in English

frustrations with wifi

Mae gan bron pob ysgol yng Nghymru gysylltedd band eang ac mae gan y mwyafrif ohonynt gymysgedd o lechi a chyfrifiaduron bwrdd gwaith gwifredig neu ddyfeisiau sy’n barod ar gyfer cwmwl a gysylltir â’r rhyngrwyd drwy ddefnyddio Wi-Fi.

Rhywbeth a oedd yn destun rhwystredigaeth barhaus i mi oedd trefnu gwers lle byddai disgyblion yn defnyddio’r gliniaduron, a oedd yn golygu treulio amser yn creu adnoddau. Wrth i’r wers fynd gyrraedd y pwynt lle byddai’r disgyblion yn mewngofnodi ar Hwb ac yn cymryd rhan yn y gwaith gwneud a chreu, byddai’r Wi-Fi fel petai’n rhoi’r gorau i weithio, ni fyddai gwefannau diogel a ymddiriedir ynddynt yn llwytho, byddai’r wers yn dod i stop a byddai sylw’r plant yn crwydro oddi ar y dasg – ARRRRHHH!

Yna byddwn i’n gwrido, yn teimlo’n rhwystredig ac yn ffonio’r tîm seilwaith i ddweud “Dydy’r Wi-Fi ddim yn gweithio, eto!”

Mae’n stori gyfarwydd i lawer o athrawon ac mewn rhai achosion, gall fod yn ddigon i wneud i athro ailfeddwl cyn defnyddio technoleg ddigidol yn y dosbarth eto. Mae’n bechod ofnadwy. Mae’n debyg bod modd llunio blog arall ynglŷn â gwydnwch wrth addysgu yma, ond gallwn gadw hwnnw ar gyfer rhywbryd arall.

Rhoddwyd y bai am fethiant y wers (yn annheg efallai) ar gysylltiad Wi-Fi gwael: ni allai’r band eang ymdopi.

Ar rai adegau, byddai’r tîm seilwaith yn dweud “Ie, doedd y rhyngrwyd ddim yn gweithio”, ond yn amlach na pheidio, byddai’n dweud “Na, roedd e’n gweithio’n iawn.”

Gwnaeth hyn i mi feddwl: os yw’r rhyngrwyd yn gweithio’n iawn, ond dydy pethau ddim yn gweithio, beth sydd o’i le?

Dechreuais edrych ar sut roeddem yn defnyddio’r cysylltiad a oedd gennym ac, fel mae’n digwydd, nid oeddem yn ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Roedd gennym liniaduron a chyfrifiaduron bwrdd gwaith yn cysoni’n barhaus gyda OneDrive, llechi’n diweddaru apiau drwy’r dydd, s llechi a gliniaduron yn diweddaru systemau gweithredu drwy’r dydd.

Doedd dim rhyfedd bod yn rhwydwaith yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Roeddem yn defnyddio cyfran enfawr o’n lled band cyn i ni hyd yn oed ddechrau ar y gwaith yn yr ystafell ddosbarth – yr addysgu a’r dysgu.

Ar ôl trafod gyda staff, darganfyddais fod boreau pan oedd tri dosbarth yn bwriadu ffrydio fideos yn ystod sesiwn llythrennedd – byddai hynny’n golygu 45 dyfais yn tynnu cyfryngau o’r rhwydwaith a oedd eisoes dan bwysau ar yr un pryd. Trychineb yn aros i ddigwydd.

Drwy wneud rhai newidiadau syml i’r ffordd roedd y gliniaduron a’r llechi wedi’u ffurfweddu, yn ogystal â helpu staff i gyfleu’r hyn roeddent yn y bwriadu ei wneud mewn gwers (defnyddiwyd yr hysbysfwrdd yn yr ystafell staff), gwnaethom lwyddo i wneud i’r rhwydwaith Wi-Fi weithio’n fwy effeithlon yn syth. Defnydd doeth!

Dydy o ddim yn berffaith o hyd, mae’n rhoi’r gorau i weithio yn achlysurol, ond yn gyffredinol mae’n brofiad llawer gwell i bawb.

Gallaf werthfawrogi’n llwyr fod llwyth o resymau pam bod cysylltedd y rhyngrwyd yn methu, ond gall fod yn werth cadarnhau sut mae pethau wedi’u gosod yn eich ysgol.

Fy nghyngor i?

  1. Edrychwch ar y gosodiadau diweddaru a chysoni ar bob un o’ch dyfeisiau. Mae gosod popeth i ddiweddaru dros nos yn hollbwysig.
  2. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn y mae pobl eraill yn bwriadu ei wneud. Os yw gwers wedi’i chynllunio sy’n debygol o roi pwysau sylweddol ar y rhwydwaith Wi-Fi, gadewch i eraill wybod – bydd pawb yn elwa.

Fiona Rutledge, Pennaeth, Ysgol Gynradd Mount Pleasant, Casnewydd

Gadael ymateb