Yn ôl yr addewid, mae adnodd hunanasesu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael erbyn hyn, ac mae’n gallu cyflawni swyddogaethau ychwanegol.
Mae sylwadau arloeswyr digidol a rhanddeiliaid eraill wedi bod yn hollbwysig wrth i ni ddatblygu’r Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol, a gafodd ei ailenwi er mwyn adlewyrchu ei ddiben yn well. Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i helpu ymarferwyr i nodi’r meysydd lle y maen nhw eisoes yn teimlo’n hyderus a’r meysydd y maen nhw’n teimlo bod lle iddyn nhw ddatblygu rhagor ynddynt. Mae gan yr Adnodd nodweddion fel swyddogaeth graddio â sêr, a thestun y gellir hofran drosto a fydd yn helpu ymarferwyr i benderfynu ar eu lefel. Fel ymarferydd eich hun, gallwch chi ddefnyddio’r adnodd nawr i weld ble yn union ydych chi arni o ran eich sgiliau digidol.
Fel Pennaeth, bydd gofyn am gael gweld dangosfwrdd eich ysgol yn rhoi golwg clir i chi o’ch anghenion dysgu proffesiynol. Bydd y dangosfwrdd yn rhoi crynodeb o wybodaeth ddienw ar gyfer eich ysgol gyfan, a bydd hefyd yn llywio’r gwaith o ddatblygu cymorth dysgu proffesiynol i ymarferwyr ac ysgolion.
Bydd yr Adnodd Anghenion Dysgu Proffesiynol newydd yn galluogi:
- athrawon i asesu eu sgiliau a’u hyder drwy roi crynodebau penodol i’r cyfnod o elfen sgiliau’r Fframwaith
- cydlynwyr y Fframwaith i gael cyfle i weld data dienw a gasglwyd i helpu i ddatblygu cymorth proffesiynol i staff
- i weld data dienw a gasglwyd ac i’w defnyddio’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, i lywio’r gwaith o ddatblygu cymorth dysgu proffesiynol i ymarferwyr ac ysgolion.
Gall pob athro ddefnyddio’r adnodd ar Hwb ond er mwyn gweld y crynodeb o’r data ar y dangosfwrdd ar gyfer eu hysgol bydd angen i benaethiaid ddilyn y camau hyn:
- nodi’r aelodau priodol o’r staff sydd angen mynediad at ddangosfwrdd adrodd FfCD yr ysgol;
- rhoi’r wybodaeth ganlynol ar e-bost a’i anfon o’ch cyfeiriad e-bost pennaeth ar hwbmail:
- Enwau defnyddiwr Hwb y staff a fydd angen mynediad
- Rhif AdAS yr ysgol, gan gynnwys cod yr awdurdod lleol (ee 671/XXXX)
- Datganiad gan y pennaeth yn awdurdodi’r defnyddwyr hyn i gael mynediad
- Rhaid anfon yr e-bost i support@cdsm.zendesk.com
Bydd y cais yn cael ei ddilysu wedyn a bydd neges yn cael ei hanfon yn cadarnhau mynediad at yr wybodaeth ar ddangosfwrdd yr ysgol. I sicrhau bod unigolion yn cael mynediad at ddata eu hysgolion eu hunain yn unig, gofynnwn i benaethiaid yn unig e-bostio CDSM yn gofyn am ganiatâd. Bydd angen i benaethiaid brofi yn yr e-bost eu bod yn bennaeth a bod yr unigolyn/unigolion y maent yn gofyn am ganiatâd ar eu rhan yn dod o’u hysgol nhw.
Fel tiwtor TAR ym mhrifysgol Aberystwyth, hoffwn gael mynediad i’r adnodd hwn er mwyn paratoi fy myfyrwyr yn well. Yn wir, hoffwn fedru cael mynediad i Hwb yn gyffredinol. Nid yw athrawon y dyfodol yn dod i arfer â defnyddio’r adnodd yn naturiol am nad oes gennym fynediad i’r wefan yma yn y brifysgol – er holi sawl gwaith. Sut mae datrys hyn? Sut mae sicrhau bod Hwb yn cael y defnydd gorau posib – a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial?
Mae cais Rhian Owen yn yn rhesymol a chall iawn .Sut mae paratoi athrawon newydd os nad oes ganddynt fynediad i HWB ?